Mechtilde Lichnowsky
| dateformat = dmy}}Awdures o'r Almaen oedd y Dywysoges Mechtilde Lichnowsky (8 Mawrth 1879 - 4 Mehefin 1958) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd ac awdur. Yn ddiweddarach yn ei hoes defnyddiai'r enw Mechtilde Peto.
Ganed Mechtilde Christiane Marie Gräfin von und zu Arco-Zinneberg yn Schönburg, Pocking, Is-Bafaria a bu farw yn Llundain. Lleolir Pocking 30 km i'r de-orllewin o Passau, yn agos i'r ffin gydag Awstria. Ei mam oedd y Fonesig Olga von Werther a'i thad oedd yr iarll Maximilian von a zu Arco-Zinneberg.
Yn 1904 priododd a'r tirfeddiannwr a'r diplomydd Karl Max, Fürst von Lichnowsky, 6ed tywysog ac 8fed iarll Lichnowsky (1860–1928) a ddilynodd ei dad yn 1901, ac a wasanaethodd fel Llysgennad Imperial yr Almaen yn Llys St Iago rhwng 1912 a 1914. Deuai'n wreiddiol o deulu'r Von Arco-Zinneberg, sef cangen o Deulu Tyrol yr Arco.
Bu'r ddau yn byw gyda'u tri plentyn yn Grätz cyn symud yn 1911 i'r Aifft. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2