Sandro Botticelli
Arlunydd o'r Eidal oedd Alessandro di Mariano di Vanni Filipepi, sy'n fwy adnabyddus fel Sandro Botticelli (1 Mawrth 1445 – 17 Mai 1510).Yn enedigol o Fflorens, nid oes llawer o wybodaeth ar gael am fywyd Botticelli. Dywed Giorgio Vasari iddo hyfforddi fel gôf aur yn wreiddiol. Erbyn 1462 mae'n debyg ei fod yn brentis i Fra Filippo Lippi. Yn 1470 roedd ganddo ei weithdy ei hun. Dyddia ei ''Addoliad y Doethion'' cyntaf o tua 1475–1476. Tua 1478, cynhyrchodd ddau o'i gampweithiau, ''La Primavera'' neu ''Alegori'r Gwanwyn'' (tua 1478) a ''Genedigaeth Gwener'' (tua 1485). Erbyn 1499, roedd y ddau yn fila Lorenzo di Pierfrancesco de' Medici yn Castello.
Yn 1481, galwodd Pab Sixtus IV Botticelli ac arlunwyr eraill o Fflorens ac Umbria i arlunio ffresco ar furiau y Cappella Sistina yn y Fatican. Wedi dychwelyd i Fflorens, ysgrifennodd draethawd ar ran o waith Dante gyda darluniau ganddo ef ei hun, a'i argraffu.
Yn nes ymlaen yn ei fywyd, roedd Botticelli yn un o ddilynwyr Savonarola. Dywed Vasari iddo roi'r gorau i arlunio am gyfnod dan ddylanwad Savonarola, a mynd i drafferthion ariannol.
bawd|chwith|300px|'' Genedigaeth Gwener '', 1486. Uffizi, Fflorens. Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan Dante AlighieriAwduron Eraill: “...Botticelli, Sandro...”
Cyhoeddwyd 1960
Rhif Galw: R 31Llyfr -
2gan Dante AlighieriAwduron Eraill: “...Botticelli, Sandro...”
Cyhoeddwyd 1961
Rhif Galw: R 31Llyfr -
3gan Alighieri, DanteAwduron Eraill: “...Botticelli, Sandro...”
Cyhoeddwyd 1961
Rhif Galw: R 31Llyfr -
4gan Dante AlighieriAwduron Eraill: “...Botticelli, Sandro...”
Cyhoeddwyd 1966
Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]Llyfr